Y Grŵp Trawsbleidiol ar Bobl Hŷn a Heneiddio

Adroddiad 2013 – 2014

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyflwyniad

Mae'r Grŵp Trawsbleidiol ar Bobl Hŷn a Heneiddio yn gweithio i sicrhau bod anghenion penodol pobl hŷn yn cael eu hystyried yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac y gall Aelodau'r Cynulliad sydd â diddordeb mewn materion pobl hŷn ddod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Dyma aelodau'r grŵp:

 • Mike Hedges AC (Cadeirydd);
 • Mark Isherwood AC;
 • Darren Millar AC;
 • Keith Davies AC;
 • Kirsty Williams AC;
 • Lindsay Whittle AC;
 • Rebecca Evans AC;
 • Aled Roberts AC;
 • Laura Nott, Age Cymru (Ysgrifennydd)



Datganiad gan y Cadeirydd

Yn ystod sesiwn 2013-14, mae'r Grŵp Trawsbleidiol wedi dilyn rhaglen waith amrywiol. Mae wedi canolbwyntio arbroblemau fel sgamiau ariannol, tlodi tanwydd a thoiledau cyhoeddus.

Mae'r grŵp wedi cael effaith wirioneddol drwy godi ymwybyddiaeth o faterion yn y cyfryngau ac yn y Cynulliad Cenedlaethol, cynnal ymchwil gyda Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau, a chyfathrebu â Gweinidogion y Llywodraeth.

*llofnod*

Mike Hedges AC

 

 

 

 

 

 

 

 

 

9 Hydref 2013

Pwnc: Sgamiau a thwyll

Cafwyd cyflwyniadau gan Andrew Bertie, Scambusters a Gerry Keighley, Cydlynydd Ymgyrchoedd, Age Cymru.

Mae Tîm y Scambusters yn mynd i'r afael â phobl sy'n galw'n ddiwahoddiad drwy Gymru, gan gynnwys masnachwyr twyllodrus sy'n mynd o ddrws i ddrws, a throseddau ym maes busnes. Mae ganddynt y pŵer i erlyn 'sgamwyr', ac i fynd ati i adennill arian ar gyfer dioddefwyr drwy'r Ddeddf Enillion Troseddau. Ar hyn o bryd, mae Scambusters yn gweithio ochr yn ochr â nifer o sefydliadau, gan gynnwys Age Cymru, i ledaenu'r neges am sgamiau yng Nghymru.  

Gerry Keighley yw Cydlynydd yr ymgyrch 'Sgamiau a thwyll'. Mae wedi bod yn siarad â phobl hŷn, sydd wedi sôn wrtho sut y cawsant eu llethu a'u dychryn gan sgamiau a thechnegau gwerthu sy'n rhoi pwysau ar y cwsmer. Roeddent yn teimlo'n rhwystredig, ac yn ofni eu bod wedi cael eu camarwain. Roeddent hefyd yn poeni, ac yn cael eu dychryn weithiau, gan bobl sy'n galw heibio i werthu rhywbeth nad oes arnynt ei eisiau na'i angen, er enghraifft, dreif neu do newydd. Mae pobl hŷn yn dal i gael eu hebrwng i'r banc gan dwyllwyr i dynnu symiau mawr allan - mae'n dechrau â chnoc ar y drws.

Argymhellion/camau i'w cymryd

·         Aelodau'r Grŵp Trawsbleidiol i gydlofnodi Datganiad o Farn i gefnogi ymgyrch Scambusters ac Age Cymru yn erbyn sgamiau.

·         Y Grŵp Trawsbleidiol i ysgrifennu at Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol, i ofyn beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i'r afael â sgamiau.

·         Darganfod pwy sy'n gyfrifol am sgamiau ar garreg y drws drwy Gomisiwn y Cynulliad. Y Cynulliad ynteu San Steffan?

·         Mike Hedges AC a Mark Isherwood AC i weithio'n agosach gyda banciau wrth drafod problemau sgamio.

Yn bresennol


Mike Hedges AC, Cadeirydd

Darren Millar AC

Janet Finch-Saunders AC

Mark Isherwood AC

Julie Morgan AC

Lindsay Whittle AC

Steve Cushen, Staff Cymorth (Mike Hedges AC)

Jackie Radford, Staff Cymorth (Aled Roberts AC)

Gerry Keighley, Age Cymru

Andrew Bertie, Scambusters

Tim Hodgson, Scambusters

Chris Jones, Gofal a Thrwsio Cymru

Lynda Wallis, Fforwm Strategaeth 50+ y Fro

Daisy Cole, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn

Monika Hare, Rhwydwaith Pobl Hŷn a Heneiddio Cymru

Roby Miles, Glaxo Smith-Kline

Graeme Francis, Age Cymru

Laura Nott, Age Cymru,Ysgrifennydd


 

 

 

 

5 Chwefror 2014

Pwnc: Tlodi Tanwydd

Cafwyd cyflwyniadau gan Carole Morgan-Jones, NEA Cymru a chyd-Gadeirydd Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru a Lee Parry, Pennaeth Nest.

 

Elusen yw NEA sydd wedi ymrwymo i ddileu tlodi tanwydd a sicrhau cynhesrwydd fforddiadwy i bawb. Mae'r elusen yn bod ers dros 30 mlynedd ac NEA Cymru sy’n ei chynrychioli yng Nghymru. Eglurodd Carole Morgan-Jones fod tlodi tanwydd yn cael ei ddiffinio fel yr angen i wario dros 10% o incwm y cartref ar gostau tanwydd i fd yn ddigon cynnes i fod yn iach ac yn gysurus ac os oes angen i deulu wario 20% neu fwy o'u hincwm ystyrir eu bod mewn tlodi tanwydd difrifol. Yn 2012, amcangyfrifwyd bod 30% o deuluoedd Cymru mewn tlodi tanwydd. 

 Cyflwynodd Lee Parry y rhaglen Nyth drwy egluro mai cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw hwn. Ei nod yw helpu pobl mewn tlodi tanwydd drwy addasu cartrefi fel eu bod yn defnyddio ynni'n fwy effeithlon. Gall Nest ddarparu gwahanol fathau o gymorth o fesurau i wella cartrefi, cynnal archwiliadau i weld a all pobl hawlio budd-daliadau a chyfeirio pobl at sefydliadau eraill a all helpu. Cyflwynodd Lee Parry drosolwg ar waith rhaglen Nyth hyd yma, a sut y mae wedi helpu pobl hŷn.

Argymhellion / camau i'w cymryd

·           Y CPG i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn a ddylai Llywodraeth Cymru

ddiwygio Grŵp Cynghori’r Gweinidogion

·         Mike Hedges i gwrdd â Mark Isherwood i drafod y posibilrwydd i'r ddau Grŵp Trawsbleidiol (Pobl Hŷn a Heneiddio a Thlodi Tanwydd) weithio mewn partneriaeth.

·         Un awgrym ar gyfer agenda'r cyfarfod nesaf oedd incwm isel

·         Argymhellodd Mike Hedges y dylid gwahodd y Gweinidog Cymunedau a Threchi Tlodi i gyfarfod ymhen 12 mis

Yn bresennol


Mike Hedges AC, Cadeirydd

Darren Millar AC

Keith Davies AC

Mark Isherwood AC

Steve Cushen, Staff Cymorth (Mike Hedges AC)

Nicholas Wall, Staff Cymorth (Mike Antoniw)

Lynda Wallis, Fforwm Strategaeth 50+ y Fro

Monika Hare, Rhwydwaith Pobl Hŷn a Heneiddio Cymru

Jackie Radford, Staff Cymorth (Aled Roberts AC)

Andrew Bell, SSIA

Emily Warren, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dr Phil Evans, ADSS Cymru

John Vincent, Senedd Pobl Hŷn Cymru

Phyllis Preece, Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol

John Davies, Cymdeithas Genedlaethol Pensiynwyr Cymru

Nancy Davies, Fforwm Pensiynwyr Cymru

Phil Vining, Age Connects Caerdydd a'r Fro

Neil Williams, Gofal a Thrwsio Cymru

Iwan Williams, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn

Carole Morgan-Jones, NEA Cymru a chyd-Gadeirydd Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru

Lee Parry, Pennaeth Nest - Ynni Cymunedol, Nwy Prydain

Graeme Francis, Age Cymru

Gerry Keighley, Age Cymru

Laura Nott, Age Cymru,Ysgrifennydd


 

 

7 Mai 2014

Pwnc: Toiledau cyhoeddus a'r Bil Iechyd y Cyhoedd newydd

Cyflwyniad gan John Vincent, Senedd Pobl Hŷn Cymru.

 

Rhoddodd John Vincent drosolwg ar  Senedd Pobl Hŷn Cymru, sy'n rhoi llais i bobl hŷn drwy'r fforymau 50+. Un o'u hymgyrchoedd yw 'P am Pobl', i ddiogelu toiledau cyhoeddus yng Nghymru.

Ysgrifennodd Senedd Pobl Hŷn Cymru adroddiad yn ddiweddar yn galw am y canlynol:

·         Llywodraeth Cymru  i ddarparu mwy o arian ar gyfer y Cynllun Grant Cyfleusterau Cyhoeddus ac adfer y drefn o neilltuo arian yng nghyllidebau awdurdodau lleol drwy ei ddyrannu fel grant unigol y tu allan i'r Grant Cynnal Refeniw.

·         Awdurdodau lleol i sicrhau bod y Cynllun yn cael ei hyrwyddo / hysbysebu'n effeithiol a hynny mewn fformatau printiedig a digidol.

·         Rhoi dyletswydd statudol (sy'n cael ei fonitro a'i orfodi gan Lywodraeth Cymru) ar Awdurdodau lleol  i sicrhau, fel hawl sylfaenol a ffordd o ddiogelu iechyd y cyhoedd, fod digon o doiledau cyhoeddus sy'n eiddo i'r awdurdod lleol a / neu doiledau preifat y gall y cyhoedd eu defnyddio, ar gael ym mhob tref / dinas fawr yng Nghymru.

Argymhellion/camau i'w cymryd

·         Cytunodd Mark y dylid anfon cofnodion y cyfarfod hwn fel llythyr i’w ystyried yn ymgynghoriad y Bil Iechyd y Cyhoedd.

·         Awgrymodd Mark Isherwood AC y dylid anfon llythyr at y Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynglŷn â safon toiledau cyhoeddus a'r gallu i'w defnyddio, gan gynnwys y gallu i ddefnyddio toiledau cyhoeddus mewn banciau a llyfrgelloedd.

Yn bresennol

Mike Hedges AC - CADEIRYDD

Simon Wilkinson, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Julie Morgan AC

John Vincent, Senedd Pobl Hŷn Cymru

Mark Isherwood AC

Phyllis Preece, Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol

Mark Major, Staff Cymorth Suzy Davies AC

John Davies, Cymdeithas Genedlaethol Pensiynwyr Cymru

John Vincent, Senedd Pobl Hŷn Cymru

Nancy Davies, Fforwm Pensiynwyr Cymru

Iwan Williams, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn

Gareth Powell

Lynda Wallis, Fforwm Strategaeth 50+ y Fro

Graeme Francis, Age Cymru

Carol Maddock, Rhwydwaith Pobl Hŷn a Heneiddio Cymru

Gerry Keighley, Age Cymru

Robin Moulster, BASW Cymru

Laura Nott, Age Cymru - YSGRIFENNYDD

Andrew Bell, SSIA

 

Lorraine Morgan

 

 

 

Adroddiad Ariannol 2013 – 14

Incwm:      Dim

Gwariant (y telir amdano gan Age Cymru):

·         Arlwyo 9 Hydref 2013: £82.08

·         Arlwyo 5 Chwefror 2014:  £155.76

·         Arlwyo 7 Mai 2014:  £62.88

 Gwasanaeth Arlwyo gan Charlton House Catering  catering.cardiffbay @ cymru.gov.uk  02920 898077

Cyfanswm:           £300.72